SL(5)326 – Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-Ddeddfwriaeth) 2019
Cefndir a Diben
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn diwygio'r gyfundrefn rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn darpariaethau yn Rhan 1 o Ddeddf 2016, drwy Orchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2019 sydd i'w wneud ym mis Ebrill 2019.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2(vi) mewn perthynas â'r offeryn hwn – yr ymddengys fod y gwaith o'i ddrafftio'n ddiffygiol:
· Mae paragraff 10 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i "Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Gwarcheidiaeth Arbennig 2005" pan nad oes offeryn statudol o'r fath. Dylai'r cyfeiriad cywir fod at Reoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig 2005.
· Mae paragraff 15(2)(c) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 â'r ddarpariaeth a ganlyn:
“mae i 'cynllun lleoli unigolyn' yr ystyr a roddir yn
rheoliad 1(2) o Reoliadau
Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion
Cyfrifol)
(Cymru)
2019”
Fodd bynnag, nid yw'r term "cynllun lleoli unigolyn" yn ymddangos yn y Rheoliadau hynny. Dylai paragraff 15(2)(c) gyfeirio at "cytundeb lleoli unigolyn" sy'n ymddangos (ac a ddiffinnir) yn y Rheoliadau hynny.
· Mae paragraff 17(3)(b)(ii) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gwneud disodliad yn rheoliad 4 o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010. Mae'r adolygiad o Reoliadau 2010 yn darparu y dylai'r disodliad fod mewn gwirionedd yn darllen "9(7)" yn hytrach na "9(7)(a)" er mwyn cwmpasu swyddogaeth y ddarpariaeth yn briodol.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
19 Chwefror 2019